Cardigan Area Stop the War Group
English Language version of this page
Mae'n bosibl bod y rhyfel yn Irac yn dirwyn i ben. Efallai ei fod yn llwyddiant. Efallai bod llawer yn Irac, yn y Dwyrain Canol ac yn y byd yn falch bod yr unben creulon Saddam Hussein wedi colli'i rym.
Ond beth fydd costau'r ‘llwyddiant' yn y pen draw? Faint yw'r ‘damej'?
Erbyn hyn, dyma'r byd 'dyn ni wedi'i greu:
- Gosodwyd cynsail i ragymosodiad, sef ymosod ar wlad am ei bod yn bosibl ei bod yn fygythiad, yn hytrach nag oherwydd ei bod wedi ymosod ar wlad arall.
- Cyfiawnhawyd y rhagymosod (sydd yn anghyfreithlon dan gyfraith ryngwladol) gan y llwyddiant, ac mae hyn yn gwneud diplomyddiaeth y pastwn yn fwy tebyg yn y dyfodol
- Mae UDA wedi magu hyder i ymosod ar wledydd eraill dros ei hamcanion ei hun, efallai gyda chefnogaeth Tony Blair eto. Mae neo-imperialaeth wedi'i dderbyn yn rhan o bolisi tramor y ddwy wlad. Mae sôn yn UDA taw Syria, Iran a Gogledd Corea sy nesa ar y rhestr.
- Anwybyddwyd y Cenhedloedd Unedig (sydd, yn ddelfrydol, yn fath o lywodraeth ddemocrataidd y byd sy'n gweithio dros heddwch) gan wledydd oedd yn teimlo'n ddigon cryf yn filwrol (UDA a Phrydain) – dyna ffordd y bwli.
- Mae'r byd Arabaidd, roedd llawer ohonynt yn elyniaethus tuag at Saddam o'r blaen, erbyn hyn wedi dod ynghyd yn eu gelyniaeth tuag at UDA a Phrydain.
- Bydd llawer o Arabiaid wedi magu casineb mwy dwys tuag at y Gorllewin, sy'n debyg o gynyddu ymosodiadau terfysgol, yn ogystal ag ansefydlogi'r Dwyrain Canol ymhellach.
- Mae'r bartneriaeth eang ryngwladol yn erbyn terfysgaeth wedi'i chwalu. Mae Ewrop wedi'i rhannu.
- Bydd unrhyw unben (neu lywodraeth arall) yn y dyfodol yn credu taw y ffordd orau i'w hamddiffyn eu hunain fydd i ddatblygu arfau dinistr torfol.
Marwolaethau, anafiadau a cholledion
- Erbyn 3/4/03 lladdwyd llawer mwy na 1,000 o bobl gyffredin Irac, ac anafwyd mwy na 5,000 – o leiaf hanner ohonynt yn blant. Bydd llawer mwy o farwolaethau, anafiadau ac afiechyd yn digwydd am gyfnod hir ar ôl y rhyfel oherwydd i UDA a Phrydain ddefnyddio iwraniwm wedi'i ddihysbyddu a bomiau ‘cawod'.
- Erbyn 11/4/03, lladdwyd llawer (dros 100) o filwyr Prydain a UDA, ac amcangyfrifir bod 4,000 o filwyr Irac wedi cael eu lladd.
- Yn sgîl y rhyfel, mae dros 1,5000,000 o bobl Irac heb ddwr glân, a 17 miliwn heb y cymorth bwyd roeddent yn dibynnu arno. Mae arbenigwyr iechyd yn disgwyl y gall 50,000 i 250,000 farw o fewn 3 mis oherwydd cyflwr truenus isadeiledd y wlad ar ôl 12 mlynedd o sancsiynau ac wedyn y rhyfel; bydd dros hanner ohonynt yn blant. Gallai afreolaeth sifil neu ryfel cartref ddigwydd yn sgîl y rhyfel.
Costau ariannol
- Mae UDA wedi clustnodi $80 biliwn i gynnal y rhyfel, ac mae Prydain wedi rhoi dros £3 biliwn. Nid yw'r rhain yn cynnwys arian i ailadeiladu Irac ar ôl y rhyfel.
- Bydd y 2 lywodraeth yn clustnodi arian mawr i gyflwyno mwy o fesurau diogelwch yn erbyn ymosodiadau terfysgwyr sydd i'w disgwyl erbyn hyn.
- Byddai'n well gwario'r arian hyn ar leddfu tlodi yn y byd neu ar wasanaethau gwell gartref.
Beth allwn ni'i wneud nawr, felly?
- Cyfaddef bod Prydain ac UDA wedi gweithredu'n anghyfreithlon ac yn anfoesol wrth ddechrau'r rhyfel.
- Collfarnu gweithredoedd milwrol anghyfreithlon heb gymeradwyaeth y CU.
- Collfarnu rhagymosodiadau anghyfreithlon.
- Herio'r syniad ei bod yn gyfiawn gweithredu polisi tramor unrhyw wlad trwy ryfel.
- Gweithio dros degwch rhyngwladol fel bod gwledydd cyfoethog a phwerus ddim yn cael ffafrio'u budd eu hunain ar draul gwledydd tlawd sy heb gymaint o bwer milwrol.
- Gweithio dros ddatrys gwrthdrawiad Isreal/Palestina yn deg.
- Rhoi cymorth dyngarol i Irac ar frys i leddfu trychineb iechyd ymysg y bobl gyffredin.
- Cryfhau rôl y Cenhedloedd Unedig.
Back to top
|