This page last updated Mon 29 Aug 2005
Print this page
Bro Emlyn for Peace and Justice / Bro Emlyn dros Gyfiawnder a Heddwch

Stop the War Coalition 10 Rheswm paham mae'r rhyfel yn anghyfiawn

For an English Language version of this page click here.

1. Nid oedd Irac yn bygwth yr Unol Daleithiau na'r Deyrnas Unedig. Nid oes tystiolaeth bod ganddi allu niwclear, na'i bod yn agos at gael y fath allu, na chwaith bod ganddi'r adnoddau i lansio ymosodiad cemegol na biolegol yn erbyn yr UD na'r DU hyd yn oed os oes ganddi'r gyfryw arfau. Nid oes tystiolaeth o unrhyw gyswllt rhwng Irac ac al-Qaeda. Cafodd pob ymgais gan yr UD neu'r DU i brofi fel arall ei ddangos fel wedi'i ffugio, neu ar ei hôl hi, yn ddigon cyflym.

2. Mae'r rhyfel yn troi Irac yn fygythiad. “Ar hyn o bryd ymddengys nad yw Baghdad am lansio ymosodiadau brawychol gydag arfau confensiynol na rai cemegol/biolegol yn erbyn yr UD”, ysgrifennodd George Tenet, cyfarwyddwr y CIA, mewn llythyr at Gyngres yr UD yn Hydref 2002. “Pe buasai Saddam yn dod i'r casgliad nad oedd modd bellach rwystro ymosodiad wedi'i arwain gan yr UD, mae'n debyg y byddai'n llawer llai cyndyn i fabwysiadu gweithgareddau brawychol.”

3. Mae pobl Iracaidd yn cael eu lladd. Maent yn marw o fomiau a bwledi, difwyniant y dwr, toriadau i'r cyflenwad trydan i ysbytai, toriadau yn y cyflenwad bwyd, ac chan olion iwranium wedi'i ddihysbyddu, sy'n achosi canser. Mae hanner y boblogaeth yn llai nac 16 mlwydd oed.

4. Mae pobl o Brydain yn cael eu lladd. Yr unig ffordd ddilys i gefnogi'r lluoedd arfog yw mynnu terfynnu'r rhyfel. Mae'r llywodraeth yn eu hecsploitio mewn rhyfel nad oedd y werin brydeinig mo'i eisiau, ac yn aberthu eu bywydau hwy i cynorthwyo ei phropaganda.

5. Mae rhyfel yn esgor ar frawychiaeth. Bydd rhyfel yn erbyn Irac a'i meddianu wedyn yn darparu milwyr newydd i al-Quaeda a grwpiau brawychol eraill. Yn ôl un adroddiad ar y BBC mae 6000 o bobl eisoes wedi gadael Gwlad yr Iorddonen i ymuno â byddin Irac.

6. Mae archwiliadau‘n effeithiol. Roedd y broses cyn rhyfel cyntaf y Gwlff yn gweithio cyn i'r UD dynnu'r archwilwyr allan er mwyn cychwyn rhyfel. Mae'r rhan fwyaf o'r archwilwyr yn ddig na chawsant gyfle i orffen y gwaith.

7. Mae rhyfel “ataliol” yn erbyn cyfraith y wledydd. Pe buasai'n dderbyniol i gychwyn rhyfel oherwydd yr hyn allai gwlad arall ei wneud ryw bryd yn y dyfodol, wedyn gallai unrhywun gychwyn rhyfel, ar unrhyw adeg.

8. Y mae gwell pethau i wario ein harian arnynt. Bydd y rhyfel yn costi tros £3.5 biliwn i Brydain yn unig. Gellid gwario'r arian hwn ar y GIC, ar ysgolion, ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar gadw swyddfeydd post gwledig ar agor, ar dal rhesymol i weithwyr yn y sector gyhoeddus. Gallai cyfanswm y bil am y rhyfel brynu bwyd i holl bobl newynog y byd.

9. Y rhai sy'n elwa go iawn yw corfforaethau a gwleidyddion Americanaidd. Dosrannwyd yr holl gytundebau i ail-adeiladu Irac ar ôl y rhyfel yn barod, i gwmnïau Americanaidd. Yn barod, hefyd, enwebwyd gweinyddwyr Americanaidd i redeg Irac ar ôl y rhyfel.

10. Y mae gwell atebion i'n problemau ynni. Rhyfel tros olew a doleri yw hwn. Tachwedd diwethaf rhybuddiodd yr Americanwyr Saddam Hussein i beidio newid ei dderbybiadau olew o ddoleri i euros, ac yn awr maent yn wynebu dirwasgiad enfawr fel canlyniad i golli ei ddoleri a rhai cynhyrchwyr olew mawrion eraill. Yr ateb go-iawn fyddai i'r DU newid sail ei heconomi sydd yn llyncu cymaint o olew, a helpu gweddill y byd i droi bant o'i ddibyniaeth ar y difwynyddion sy'n difetha bywyd ar y blaned hon. Sut bynnag, rhan fwyaf cynghorwyr Mr Bush ydyw neu fu'n gyflogedig gan gwmnïau olew. Mae hyn yn wir am Mr Bush ei hun hefyd.

back to top Back to top

Site created for locals, by locals at newcastle-emlyn.com and hosted locally by SCL Net